Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Mawrth 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(15 munud)
NDM6676 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6674 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael
eillunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2018.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(30 munud)
NDM6657 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 9 Chwefror 2018.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfen
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
(60 munud)
NDM6675 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.
Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
NDM6675 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell”.
NDM6672 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.
NDM6673 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 7 Mawrth 2018